Cynhaliwch eich gweithdy creu gweledigaeth eich hun

Mae’r pecyn yn cynnwys tair elfen: Llawlyfr, Ffilm, a Thaflenni. Mae’r Llawlyfr yn eich helpu i gynllunio eich digwyddiad eich hun a’i gynnal. Mae’r ffilm yn helpu i osod yr olygfa, ac mae modd dosbarthu’r taflenni i gyfranogwyr ar y diwrnod. Gellir sefydlu’r Gweithdy Creu Gweledigaeth fel digwyddiad ar ei ben ei hun, fel diwrnod cwrdd i ffwrdd i gwmni, neu mewn gweithdy, cwrs neu gyfres o ddigwyddiadau mwy.

O ystyried traddodiadau dyfodol drwy brofiad a dylunio cyfranogol, gallai fod yn rhan o daith tuag at feithrin gallu i ragweld, gan ymgysylltu â dyfodol amgen mewn ffyrdd mwy agored a chreadigol. Neu gallech ei ddefnyddio i gael hwyl – creu lleoedd drwy adeiladu byd. Wrth i fwy a mwy o bobl redeg eu gweithdy creu gweledigaeth eu hunain ar gyfer y gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru, bydd yn gadael ymdeimlad cyffredin cynyddol o ddychmygu, cwestiynau a phrociadau am fydoedd posibl.

I gyfrannu at yr adnodd hwn sy’n cael ei rannu, rydym yn gwahodd cyfranogwyr i bostio eu hoff luniau a fideos o’u gobeithion, eu syniadau a’u gweledigaethau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #visionforwales2050.

Lawrlwythwch adnoddau

Rheilffordd ar bont dros afon; cefndir yw mynyddoedd.