Dŵr sy’n ein cynnal. Mae’n hanfodol i’n llesiant, iechyd yr amgylchedd, mae’n sail i’n heconomi ac mae’n rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n hunaniaeth genedlaethol. Wrth i’n hinsawdd newid, ochr yn ochr â phwysau ehangach gan ffactorau fel seilwaith sy’n heneiddio, demograffeg newidiol a newid defnydd tir, mae’r peryglon rydym yn eu hwynebu yn sgil dŵr ar gynyddu a byddant yn effeithio ar ein cymunedau mewn gwahanol ffyrdd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod cylch gwaith i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC), fel rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru 2021, yn ystod tymor y Senedd hon i gynnal ‘asesiad o sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050’. O ganlyniad, diffiniodd y Comisiwn y prosiect Rheoli Effeithiau Llifogydd yng Nghymru 2050. Mae’r prosiect hwn yn ceisio nodi polisi neu weithredu ymarferol ar gyfer seilwaith sy’n cefnogi’r gwaith o liniaru’r perygl o lifogydd, yn gwella ein gallu i’w wrthsefyll ac yn helpu i ‘ddiogelu Cymru’ yn well. Yn y prosiect hwn, sy’n un o bedair ffrwd waith, comisiynwyd Arup gan y Comisiswn i ddatblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru i gynnig eglurder o ran cyfeiriad ac ysbrydoli unigolion, cymunedau a sefydliadau ynglŷn â dyfodol llawn gobaith lle rydym yn gallu addasu i beryglon llifogydd yn y dyfodol ac yn gallu eu gwrthsefyll.
Mae’r wefan hon yn disgrifio canlyniad y prosiect hwn, gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn 2050, a’r broses a’r cydweithredwyr sy’n ymwneud â’r gwaith o’i ddatblygu. Bwriad y weledigaeth a ddisgrifir yw bod yn fan cychwyn. Rydym yn gobeithio y bydd yn hwyluso sgwrs genedlaethol ehangach ynghylch sut rydym ni yng Nghymru eisiau bod yn gydnerth ac addasu i heriau’r dyfodol.
Ar sail canfyddiadau’r ffrwd waith hon, bydd y Comisiwn yn llunio cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghylch sut gall Cymru ymateb i’r heriau cynyddol sydd o’n blaenau o ran gwrthsefyll llifogydd.
Beth yw gweledigaeth?
“Ffurfiau o fywyd cymdeithasol a threfn gymdeithasol a ddychmygir ar y cyd a adlewyrchir yng nghynllun a chyflawniad prosiectau gwyddonol a/neu dechnolegol cenedl-benodol.”
Sheila Jasanoff, Athro Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Harvard Kennedy
Pwy oedd yn gysylltiedig?
- Arup – Yn ymroddedig i ddatblygu cynaliadwy, mae Arup yn gasgliad o ddylunwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr. Arweiniodd Arup y gwaith o ddylunio a chyflawni’r prosiect, gan gynnwys y wefan derfynol sy’n cynnal y weledigaeth a senarios a darluniau ategol.
- Grasshopper – Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu Gymreig sydd ag ochr greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau. Buont yn cefnogi Arup gyda hyrwyddo a hwyluso’r gweithdai a llywio cyfeiriad eu cynnwys. craidd/eitem-rhestr
- Grŵp Cynghori’r Prosiect – Mae ‘PAG’ CSCC yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid sydd ag arbenigedd perthnasol yn y sector gwrthsefyll llifogydd yng Nghymru. Roedd y PAG, yn benodol y Pwyllgor Llifogydd, yn ddylanwadol wrth gefnogi a llywio cyfeiriad y prosiect hwn.
- Prith Biant – Peintiwr o Gymru sy’n ystyried materion yn ymwneud â hunaniaeth, cynrychiolaeth a’r corff yn ei gwaith celf. Prith greodd y gwaith celf sy’n crynhoi’r weledigaeth ac yn ffurfio ei gefndir.
- Cyfranogwyr y gweithdai – Daeth dros 80+ o gyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol i’r gweithdai a chymerasant ran. Diolch yn fawr iawn am roi o’ch amser a chyfraniadau gwerthfawr a lywiodd cyfeiriad y ffrwd waith hon.
- Cyngor Celfyddydau Cymru – Yn gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru, buont yn rhoi arweiniad ar sut i ymgysylltu â’r sector creadigol Cymreig.
- CSCC – y sefydliad Comisiynu a gymerodd ran yn y prosiect, ac a reolodd y prosiect llifogydd cyffredinol