Gweledigaeth 2050 ar gyfer Cymru sy’n Gallu Gwrthsefyll Llifogydd
Gweithio ar y cyd, ochr yn ochr â natur
Amgylcheddau’r Dŵr: Gweithio ar y cyd ochr yn ochr â natur
Data Rhagfynegol: Deall systemau naturiol
Tiroedd y gellir eu Haddasu: Llunio tirluniau’r dyfodol
Cynyddu Gwydnwch: Llywodraethu strategol
Gwreiddiau Gwydn: Sgiliau ac addysg glas
Cryfder ar y Cyd: Cymunedau gwydn

Cyflwynaid
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, aeth Llywodraeth Cymru ati i greu cenedl sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd ar gyfer cenedlaethau ffyniannus i ddod. Ychydig iawn fyddai wedi dychmygu sut y byddai’r wlad yn tynnu ar ei dynameg, ei chryfder cymunedol a’i gweledigaeth i ddod yn fodel ar gyfer gwledydd a rhanbarthau eraill sy’n brwydro i addasu’n systematig i’r newid yn yr hinsawdd. Wrth i seilwaith ac ymatebion tameidiog cymunedau a’r llywodraeth frwydro i ymdopi â digwyddiadau llifogydd cynyddol debygol, datblygodd y wlad weledigaeth obeithiol ar gyfer y dyfodol i’w llywio. Ategwyd y weledigaeth hon gan newid o ‘weithio mewn seilos, yn aml heb fod mewn cytgord â natur’ i ‘weithio ar y cyd ochr yn ochr â natur’. Helpodd persbectif a pholisïau hirdymor i ail-fframio sut y gall Cymru ffynnu drwy ddefnyddio ei hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac annog sefydliadau a busnesau i ffynnu er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Dyfodol cydnerth a thoreithiog Cymru yn cael ei siapio gan rymuso cymunedau a chefnogaeth y llywodraeth, ynghyd ag atebion arloesol i wrthsefyll hinsawdd. Mae partneriaethau amrywiol yn meithrin gwytnwch cynhwysol, tra bod anghenion byd natur yn cael eu cydnabod, gan sicrhau bod pob llais yn cyfrannu at strategaethau rheoli amgylchedd dŵr ac ymateb i’r hinsawdd. Mae cynllunio cydweithredol a deialog agored yn sicrhau ymaddasu rhagweithiol i’r hinsawdd, tra’n hyrwyddo defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol a llesiant cymunedol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Cymru yn dod yn ganolfan ar gyfer gwrthsefyll llifogydd ac yn datblygu arbenigedd yn yr amgylchedd dŵr, gan eiriol dros integreiddio ystyriaethau asedau naturiol i fywyd beunyddiol a gwneud penderfyniadau. Mae addysg, sydd wedi’i seilio ar ymchwil, yn gwella dealltwriaeth o wydnwch rhag llifogydd ac yn rhoi’r sgiliau i ddinasyddion ynghylch gwytnwch a systemau naturiol. Gyda gweledigaeth unedig a chyfunol ar gyfer y dyfodol, mae Cymru yn ffynnu.
Amgylcheddau’r Dŵr
Mae Cymru’n ganolfan ar gyfer y gallu i werthsefyll llifogydd ac addasu i lifogydd, gan weithio ochr yn ochr â natur i alluogi cydnerthedd.
Fel deddfwr hyblyg, yn dilyn arweiniad Seland Newydd a ymgorfforodd bob ased naturiol mawr yn y gyfraith a chreu deddfwriaeth a oedd yn caniatáu i afonydd, biomau a thiroedd anifeiliaid ddadlau dros eu hawliau, creodd Cymru fodel tebyg o’r enw Tiroedd Comin Natur. Mae’n ddarn o ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu mentrau o gasglu data sy’n ymwneud â natur, galluogi cyllid i seilwaith gwyrdd, i wella cyfathrebu rhwng cymunedau a natur. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sicrhau bod Cymru’n ystyried natur fel rhanddeiliad, gan ddefnyddio’r Tiroedd Comin Natur fel dull blaengar o weithio ochr yn ochr â natur ag amgylcheddau’r dŵr, yn datblygu sylfaen wybodaeth ac adnoddau i gymunedau’r dyfodol eu hetifeddu ac adeiladu arnynt. Drwy ddefnyddio technoleg newydd fel rhyngwyneb i ddehongli a chynrychioli data am fioamrywiaeth ac iechyd afon neu gefnfor sydd fel arall yn gymhleth, rydym bellach yn deall anghenion natur yn well ac yn ymateb iddynt drwy newid y ffordd rydym yn rheoli tir.

“Ers canrifoedd, rydw i wedi bod yn dyst tawedog, ond nawr rydw i’n gwneud mwy na gwylio; rydw i’n rhan o’r sgwrs ac mae pobl yn defnyddio fy nata i ddeall beth sydd ei angen arnaf a sut mae pethau’n mynd i mi. Am y tro cyntaf, mae pobl yn deall cwmpas llawn fy modolaeth – mae pob isafon a ffrwd sy’n fy mwydo’n rhan o ddarlun ehangach. Mae’r ddealltwriaeth hon yn hanfodol i’r rheini sy’n gweithio’r tir o’m cwmpas. Mae’r wybodaeth o’m prosesau a’m data yn helpu i feithrin bywyd ar hyd fy nglannau ac ystyried effaith eu gweithgarwch. Mae bellach yn bartneriaeth; rydw i’n darparu adnoddau iddyn nhw, ac maen nhw’n helpu i gynnal fy ecosystemau. Rydym yn dal wrthi’n perffeithio’r cydbwysedd hwn, ond mae’n gwella drwy’r amser.”
“Ers canrifoedd, rydw i wedi bod yn dyst tawedog, ond nawr rydw i’n gwneud mwy na gwylio; rydw i’n rhan o’r sgwrs ac mae pobl yn defnyddio fy nata i ddeall beth sydd ei angen arnaf a sut mae pethau’n mynd i mi. Am y tro cyntaf, mae pobl yn deall cwmpas llawn fy modolaeth – mae pob isafon a ffrwd sy’n fy mwydo’n rhan o ddarlun ehangach. Mae’r ddealltwriaeth hon yn hanfodol i’r rheini sy’n gweithio’r tir o’m cwmpas. Mae’r wybodaeth o’m prosesau a’m data yn helpu i feithrin bywyd ar hyd fy nglannau ac ystyried effaith eu gweithgarwch. Mae bellach yn bartneriaeth; rydw i’n darparu adnoddau iddyn nhw, ac maen nhw’n helpu i gynnal fy ecosystemau. Rydym yn dal wrthi’n perffeithio’r cydbwysedd hwn, ond mae’n gwella drwy’r amser.”
— Y Taf, bythol
Data rhagfynegol
Mae technoleg newydd yn cefnogi mynediad agored a thryloyw at ddata, y mae’r rheini yng Nghymru yn ei ddeall ac yn ei ddefnyddio i helpu gwarchod tirweddau.
Drwy ymdrechion ar y cyd rhwng sefydliadau preifat a chyhoeddus, y byd academaidd a chyrff anllywodraethol, aeth y Sefydliad Ymchwil Dŵr ati i ddatblygu a gweithredu rhai o fodelau cyllido cyntaf y DU ar gyfer Atebion ar Sail Natur a seilwaith gwyrdd a roddwyd ar waith ar raddfa fawr. Drwy dreialon gyda chymunedau lleol a oedd yn manteisio ar eu gwybodaeth am y tir a’r hinsawdd, atblygwyd modelau dadansoddi data sy’n canolbwyntio ar ecoleg (Eco DAMs) i helpu i warchod y tir ar raddfa fawr
Cyflwynwyd y modelau hyn i gefnogi cymunedau lleol presennol sy’n gweithio i sbarduno arloesi, yn creu ffyrdd mwy cydnerth o reoli’r tir a chasglu data ar draws dalgylchoedd i greu sylfaen dystiolaeth genedlaethol. Maent yn mynd ati’n gyflym i gasglu, modelu a chynrychioli cannoedd o flynyddoedd o ddata a gwaith modelu ar draws rhanbarthau cyfan Cymru, gan ei gwneud yn haws i bobl addasu, ymateb ac arwain newid yn yr ecosystem. Am y tro cyntaf, mae modelau dadansoddi data Eco yn caniatáu i gymunedau, busnesau, arbenigwyr a’r llywodraeth gael mynediad at setiau data mawr o’r amgylchedd. Defnyddiwyd y data hwn i greu modelau ar gyfer cadernid yn y dyfodol, gan helpu cwmnïau preifat i asesu risg a gwerthfawrogi natur drwy edrych yn hir-dymor ar bethau. Cafodd ein mynediad at ddata rhagamcan tymor hir effaith amlwg ar gyllid ac adnoddau. Cymerodd cwmnïau preifat ran mewn casglu cyfalaf i gefnogi adeiladu amddiffynfeydd llifogydd lleol a rhoi Atebion ar Sail Natur ar waith er budd Cymru dros y 100 mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae hyd yn oed achosion lle mae cynlluniau gwrthsefyll llifogydd wedi cael eu cefnogi drwy gynlluniau cyllid torfol.
O ganlyniad, daeth modelau busnes newydd i’r amlwg a oedd yn canolbwyntio ar wasanaethau ecosystemau ac arloesi o amgylch strwythurau cydnerthedd arfordirol fel adeiladu systemau ymreolaethol a chynnal concrit pridd wedi’i argraffu’n 3D. Mae’r rhwystrau arfordirol pwrpasol hyn yn ffurfio tirwedd o elfennau cerfluniol ar hyd arfordir Sir Benfro, sy’n profi y gall dylunio gan ystyried natur fod o fudd i’r blaned ac i gymunedau. Manteisiwyd ar dechnoleg i feithrin dull systemig o ragfynegi a rheoli peryglon llifogydd ledled Cymru. Mae gan ddinasoedd fodelau rhagfynegi’r tywydd sy’n seiliedig ar ddata ac sy’n darparu rhagolygon amser real, lleol iawn, o risgiau llifogydd. Defnyddir peiriannau ymreolaethol i fonitro lefelau dŵr, cyfanrwydd strwythurol amddiffynfeydd rhag llifogydd a pherfformiad Atebion ar Sail Natur. Mae data lloeren yn cael ei rannu’n rhydd rhwng rhanbarthau. Mae cymunedau, busnesau, y Llywodraeth ac ymatebwyr brys yn defnyddio’r wybodaeth hon bob dydd i helpu i reoli ymatebion i ddigwyddiadau llifogydd ar hyd a lled y wlad.
Tiroedd y gellir eu haddasu
Mae ein cymunedau,- ein seilwaith a’n tirweddau’n hyblyg ac yn gallu gwrthsefyll dŵr.
Y trobwynt i Lywodraeth Cymru a chymunedau sy’n gweithio ar gydnerthedd llifogydd yn y 2030au oedd y ddealltwriaeth bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn llawer cyflymach nag y cynlluniwyd amdano mewn buddsoddiadau arfaethedig blaenorol mewn rheoli llifogydd. Drwy weithredu polisi a chynllunio hirdymor a gefnogir gan fecanweithiau cyllido a chyllid cynaliadwy, gallai Cymru baratoi ymateb ymaddasol a oedd yn ystyried y codi yn lefel y môr a newidiadau i ddyddodiad dros y 100 mlynedd nesaf a mwy. Roedd hyn yn cefnogi’r gwaith o reoli asedau presennol i liniaru llifogydd, datblygu cynlluniau newydd i liniaru llifogydd, ac yn ystyried sut i drawsnewid ac addasu tirweddau i hinsawdd sy’n newid. Roedd yn dasg enfawr, gan fod yr ansicrwydd ynghylch yr hinsawdd yn deillio o erydu arfordirol a’r codi yn lefel y môr, yn ogystal ag afonydd mewndirol, yn achosi llifogydd mewn ardaloedd gwledig a threfol. Fodd bynnag, siapiwyd y cynllun gan sgyrsiau cenedlaethol, paneli Dinasyddion ac Ieuenctid, a rhoddodd hyn ymdeimlad o ddylanwad a gobaith er bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd.
Gan ddefnyddio gwybodaeth y rheini a fu’n gwarchod natur Cymru dros y canrifoedd diwethaf, yn ogystal â modelau dadansoddi data Eco, crëwyd rhyngwynebau rhwng dyn a natur a alwyd yn eneidiau’r afonydd a’r moroedd (Gwragedd Annwn) i gynrychioli afonydd, arfordiroedd ac ecosystemau dŵr ledled y wlad. Yn aml, maent ar ffurf apiau neu hysbysfyrddau cyhoeddus ac yn helpu i gyfieithu a chyfleu setiau data cymhleth a gynhyrchir gan ddalgylch afon neu barth arfordirol i raddfa ddynol. Mae’r wybodaeth hon yn ategu ymdrechion ehangach i wella gallu ein hamgylchedd adeiledig i wrthsefyll llifogydd, ac mae cartrefi sy’n gallu gwrthsefyll dŵr bellach yn gyffredin. Mae enaid yr afon a’r môr yn rhybuddio trigolion am lifogydd, yn adrodd ar fioamrywiaeth, yn galw am help i’w cefnogi neu’n gwahodd pobl i fwynhau dyfroedd yr afon pan fyddant yn lân ac yn llonydd. Maen llawer wedi eu cefnogi nhw ac maent yn cael eu cynnwys mewn rhaglenni newyddion a diweddariadau tywydd dyddiol. Ond roedd amheuwyr o’r farn eu bod yn arwynebol ac yn aml yn codi braw, gan gyfyngu ar y canfyddiad o ryddid a hawliau pobl i reoli eu tir fel y dymunant. Er gwaethaf hyn, mae’r cyhoedd a chymunedau bellach i raddau helaeth yn derbyn eneidiau’r afon a’r môr a arloeswyd yng Nghymru. Mae gwledydd eraill hefyd yn dilyn yn olion ein traed, gan ddefnyddio’r adnoddau ffynhonnell agored sydd ar gael i adeiladu eu rhai eu hunain.

“Fe wnes i addasu fy arferion ffermio mewn ymateb i’r cynnydd mewn llifogydd gyda chefnogaeth y Fforymau Afonydd a’r Tiroedd Comin Natur. Byddwn yn disgrifio fy hun fel ffermwr ac fel gwarchodwr bioamrywiaeth. Rwy’n cyflwyno atebion ar sail natur ar draws y tir rwy’n gweithio arno, gan sicrhau ein bod yn ffermio mewn ffordd sy’n gydnaws â’r hyn y gall y tir ei gynnal ac yn lleihau llifogydd i gymunedau ar hyd yr afon ar yr un pryd. Mae’r llywodraeth hefyd yn talu iawndal i mi amdano, sy’n gymhelliant enfawr! Trosglwyddir gwybodaeth am y tir a sut i ofalu amdano o un genhedlaeth i’r nesaf, gyda phrentisiaethau sy’n boblogaidd ymysg y bobl ifanc yn sicrhau parhad. Mae ffermio’n ymwneud â chydbwysedd – cynaeafu bwyd a chefnogi natur ar yr un pryd.”
— Lowri Ahmed, 29, Ffermwr
Cynyddu gwydynwch
Mae arweinyddiaeth ac ymatebion integredig yn cefnogi’r gwaith o greu Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd.
Yn ogystal â rhoi llais i fyd natur drwy Diroedd Comin Natur ac eneidiau afonydd a moroedd, aethpwyd ati i sefydlu Comisiynydd Amgylcheddau Dŵr annibynnol i ddarparu perchnogaeth glir o’r trywydd sy’n cael ei ddilyn a’r uchelgais o greu Cymru sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn y dyfodol, gan weithredu er budd cymunedau ledled Cymru. Ochr yn ochr â hyn, aeth Llywodraeth Cymru ati i drefnu clymbleidiau o arbenigwyr a chymunedau drwy’r Fforymau Afonydd ac Arfordiroedd. Mae’r llwyfannau dalgylchoedd a pharthau arfordirol sy’n cael eu cynnal gan y llywodraeth ledled y wlad yn darparu adnoddau er mwyn gallu gwrthsefyll llifogydd ac yn cysylltu nifer o ddisgyblaethau, arbenigwyr technegol, y llywodraeth a chymunedau i wneud penderfyniadau am ddyfodol eu rhanbarthau, cael gafael ar wybodaeth a rennir a dosbarthu cyllid. Mae cymunedau a oedd yn arfer bod yn ddarniog yn sôn am lwyddiant ysgubol y fforymau hyn sy’n cynnig rheolaeth leol dros afonydd fel Taf a Gwy ac arfordiroedd ledled Cymru.
Maent yn dod â thrigolion a sefydliadau at ei gilydd, gan ganiatáu iddynt weithio gyda’i gilydd o fewn ecosystem a rennir. Yn dilyn ailstrwythuro radical ar y modelau llywodraethu drwy gynnwys y Tiroedd Comin Natur fel ffordd o wrando ar natur, a phenodi Comisiynydd Amgylchedd Dŵr cenedlaethol, ystyrir bellach fod Cymru’n arweinydd mewn seilwaith cymunedol cydnerth. Drwy ymgyrchoedd addysgu cenedlaethol, mathau newydd o gyllid sy’n gwerthfawrogi natur, ac ymdrech gan y llywodraeth i greu Fforymau Afonydd ac Arfordirol, mae’r wlad yn fwy parod i fynd i’r afael ag ansicrwydd ynghylch llifogydd. Mewn dyfodol sy’n fwyfwy ansicr, mae pobl o bob cwr o’r byd yn cael eu denu at yr ysbryd o ryng-gysylltiad rhwng natur a phobl, ac wedi cael eu hysbrydoli gan ddyfeisgarwch cymunedau sy’n arbrofi gyda ffyrdd o fyw ochr yn ochr â natur mewn gwahanol ffyrdd.

Mae’n ymdrech ar y cyd sy’n ymestyn y tu hwnt i gamau gweithredu’r llywodraeth, gan rymuso cymunedau i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Drwy asiantau afonydd, rydyn ni’n pontio ein cysylltiad â byd natur, gan ddod o hyd i dir cyffredin drwy rannu cyfrifoldeb. Gyda chefnogaeth cyllid traws-sector penodol, mae amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi dod yn ymdrech ar y cyd. Nawr, mae trafodaethau am flaenoriaethau a strategaethau’n ymestyn o’r Senedd i’r Fforymau Afonydd, gan wneud cydnerthedd yn nod sy’n uno bob un ohonom.”
— Beca Davies, 53, Gweinidog yn y Llywodraeth

“Mae deall ymddygiad afon yn eich grymuso ac rwy’n rhan o gymuned sy’n ymwneud â gwella iechyd yr afon. Rwy’n gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr lleol, gan rannu gwybodaeth gan asiantau’r afon, a gyda’n gilydd, rydym yn gweithredu strategaethau sy’n gwarchod ein busnesau a’n cartrefi, a hefyd yn adfer ecosystem yr afon. Mae’r cydweithio hwn wedi creu ymdeimlad o bwrpas. Dydyn ni ddim yn ymateb i lifogydd yn unig; rydym yn cymryd camau rhagweithiol i’w hatal. Mae’n ymrwymiad hirdymor, ond mae’n un sy’n dod â gobaith ac ymdeimlad o reolaeth dros ein dyfodol.”
– David Morgan, 42, Perchennog busnes
Gwreiddiau gwydn
Caiff gweithredoedd eu grymuso drwy addysg, hyfforddiant a sgiliau.
Yn gynyddol, mae ffermwyr a gwarchodwyr tir wedi cofleidio arallgyfeirio, gydag arferion ffermio adfywiol sy’n adfer ecosystemau naturiol yn sbarduno twf cynaliadwy yn economi wledig Cymru. Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd i ffynnu ac mae tir amaethyddol wedi dechrau bod yn gyforiog o fywyd gwyllt, rhywbeth na welwyd ers cannoedd o flynyddoedd, gan fod y pridd sy’n sail i ecosystemau wedi dechrau llenwi unwaith eto â maetholion hanfodol. Mae’r fioamrywiaeth hon wedi cynyddu natur sbyngaidd y pridd yn sylweddol gan leihau’r risg o lifogydd ymhellach mewn cylch rhinweddol o dir, pobl a chynnyrch. Un o’r dulliau arloesol oedd defnyddio systemau adeiladu ymreolaethol a llafur wedi’i ail-sgilio ynghyd â thechnegau gwydn cost isel o ffynonellau agored, gan alluogi cymunedau i adeiladu ac ôl-osod eu cartrefi gyda mesurau gwrthsefyll llifogydd eiddo gan ddefnyddio cynlluniau cymorth y llywodraeth a chyllid o ffynonellau torfol, wedi eu cefnogi gan fodelau dadansoddi data Eco. Bach iawn oedd ôl troed carbon yr adeiladau cost isel hyn a grëwyd o ddeunyddiau lleol fel brics gwymon a bio-goncrit, ac roedd eu system ariannu unigryw’n golygu y gallai cymdogaethau cyfan benderfynu gyda’i gilydd i symud i ffwrdd o ardaloedd sy’n rhy agored i lifogydd i fyw ynddynt oherwydd bod lefel y môr yn codi, gan ddechrau ar oes newydd o anheddau sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.
“Ariannwyd y Sefydliad Ymchwil Dŵr, a sefydlwyd ddiwedd y 2020au fel ymateb i ragolygon hinsawdd llwm ar gyfer Cymru yn y dyfodol, drwy grantiau ymchwil, a gan ddiwydiant a chafodd ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fel canolfan arloesi i greu llwybrau newydd i wrthsefyll llifogydd. Yn dilyn dau ddegawd o lwyddiant rhyngwladol, mae ein hymchwil wedi dangos manteision atebion sy’n seiliedig ar natur fel adfer iechyd pridd er mwyn iddo allu amsugno glaw gormodol yn well. Roedd rhanbarth Aberhonddu’n gynllun peilot arloesol a oedd yn gweithredu dulliau o’r fath ar raddfa fawr, gan arloesi cyfnod newydd i’r amgylchedd adeiledig. Roedd buddsoddiad preifat a chyhoeddus yn cefnogi’r gwaith o sefydlu Ysgol Bensaernïaeth a Pheirianneg newydd yn y Sefydliad Ymchwil Dŵr, gan arwain y gwaith o ddatblygu bioddeunyddiau newydd a dulliau adeiladu sy’n gadarnhaol o ran natur.”
— Bronwen Morgan, 67, Pennaeth y Sefydliad Ymchwil Dŵr yng Nghymru
Cryfder ar y cyd
Mae cynrychioli a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn cefnogi gweithredu cymunedol a chydnerthedd.
Yn 2050 mae Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer gwrthsefyll llifogydd ac arfordirol gyda’r Sefydliad Ymchwil Dŵr yn arwain y ffordd. Mae’r Sefydliad yn cael ei gyd-gynnal gan Brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth a Bangor i goladu straeon arfer gorau, arloesedd, ac enghreifftiau o sut i rymuso cymunedau a llywodraeth i adfer cydbwysedd mewn amgylcheddau dŵr a galluogi gwytnwch Cymreig. Yn ôl yn 2035, cynhaliodd Cymru’r Gynhadledd Bartïon Amgylcheddau Dŵr gyntaf, gan wahodd gwledydd eraill sydd â chymunedau a’r amgylchedd mewn perygl cynyddol o lifogydd a newid yn yr hinsawdd i gyfnewid gwybodaeth ac ymrwymo ar y cyd i adfywio ecosystemau a fyddai’n sail i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol.
Fel deddfwr hyblyg, yn dilyn arweiniad Seland Newydd a ymgorfforodd bob ased naturiol mawr yn y gyfraith a chreu deddfwriaeth a oedd yn caniatáu i afonydd, biomau a thiroedd anifeiliaid ddadlau dros eu hawliau, creodd Cymru fodel tebyg o’r enw Tiroedd Comin Natur. Mae’n ddarn o ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu mentrau o gasglu data sy’n ymwneud â natur, galluogi cyllid i seilwaith gwyrdd, i wella cyfathrebu rhwng cymunedau a natur. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sicrhau bod Cymru’n ystyried natur fel rhanddeiliad, gan ddefnyddio’r Tiroedd Comin Natur fel dull blaengar o weithio ochr yn ochr â natur ag amgylcheddau’r dŵr, yn datblygu sylfaen wybodaeth ac adnoddau i gymunedau’r dyfodol eu hetifeddu ac adeiladu arnynt. Drwy ddefnyddio technoleg newydd fel rhyngwyneb i ddehongli a chynrychioli data am fioamrywiaeth ac iechyd afon neu gefnfor sydd fel arall yn gymhleth, rydym bellach yn deall anghenion natur yn well ac yn ymateb iddynt drwy newid y ffordd rydym yn rheoli tir.

“Rwy’n rhan o’r criw cynnal a chadw asedau llifogydd lleol, ac yn ymfalchïo yn arbenigedd ein hecosystem. Yn rheolaidd, rydym yn edrych ar iechyd yr afon, gan olrhain ein cynnydd tuag at nodau blynyddol. Mae’n teimlo’n wych fod y gymuned leol yn fy nghydnabod am fy ymdrechion i gynnal ein hasedau sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd. Rwyf newydd setlo i mewn i bentref newydd, arloesol, ac yn difaru na wnes i symud yma’n gynt. Yma, mae’n arferol i gydweithio fel cymuned i reoli llifogydd a chydgysylltu i fyny’r afon. Mae’n gysur gwybod y gall lleisiau cymunedol arwain at newid lleol ar lawr gwlad sy’n cael ei gefnogi a’i ariannu gan y llywodraeth.”
— Halima Abdi, 34, Preswylydd lleol